R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae'r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am glystyrau newydd Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)1034(FM)
2. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau cyfyngiadau cyflymder yng nghyffiniau ysgolion? OAQ(4)1045(FM)
3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo'r diwydiant adeiladu yng Nghymru? OAQ(4)1048(FM)
4. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella gwasanaethau cludo teithwyr ar y rheilffyrdd ledled Cymru? OAQ(4)1044(FM)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU o ran cynnwys araith y Frenhines? OAQ(4)1046(FM)W
6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gorllewin Cymru a rhannau eraill o'r wlad? OAQ(4)1033(FM)
7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gofal iechyd i blant yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)1043(FM)
8. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar ynghylch datganoli y mae wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU? OAQ(4)1040(FM)
9. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau ar gyfer cymorth y dreth gyngor yn 2015/15? OAQ(4)1031(FM)
10. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am waith y Cydlynydd Atal Masnachu Mewn Pobl? OAQ(4)1041(FM)W
11. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i ysgolion yng Nghymru i ddarparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion mewn gofal er mwyn iddynt allu cyflawni eu llawn botensial? OAQ(4)1037(FM)
12. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa wersi y mae'r Llywodraeth wedi eu dysgu yn sgîl ei hymateb i effaith y tywydd garw diweddar ar y diwydiant amaeth yng Nghymru? OAQ(4)1036(FM)W
13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gostau ychwanegol adeiladu tai fforddiadwy yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1039(FM)
14. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am faint o ynni y mae Cymru yn ei greu ac yn ei ddefnyddio? OAQ(4)1035(FM)W
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a gyflawnwyd o ran hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, o dan y 'Rhaglen Lywodraethu'? OAQ(4)1047(FM)